Dysgwch mwy am y rhwydwaith

Mae’r wybodaeth hon hefyd ar gael fel dogfennau word. Mae’r cysylltiadau i’r dogfennau ar y dde o’r tudalen hon

Nodiadau Esboniadol ar gyfer Rhwydwaith Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Caerdydd a Bro Morgannwg

Ffurfiwyd Rhwydwaith Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Caerdydd a Bro Morgannwg yn niwedd 2008. Mae’r Rhwydwaith yn cynnwys pobl o ystod o sefydliadau cydraddoldeb yn y sector gwirfoddol sy’n ceisio cynrychioli a siarad ar ran grwpiau wahanol fel bod eu hanghenion yn cael eu cydnabod yn gywir a’u trin.

Aelodau craidd y rhwydwaith yw

  • Age Concern Caerdydd a Bro Morgannwg
  • Cynghrair Pobl Anabl Caerdydd a Bro Morgannwg
  • Cymdeithas Rhyng-ffydd Caerdydd
  • Plant yng Nghymru
  • Canolfan Rhagoriaeth LGBT
  • Cydraddoldeb Hiliol yn Gyntaf
  • Stonewall Cymru
  • Cymru Draws Rywiol
  • Cynghrair Genedlaethol Menywod Cymru
  • [Menter Iaith Caerdydd - TBC]

Diben y rhwydwaith yw rhannu gwybodaeth, comisiynu ymchwil sy’n berthnasol i bob maes o’n gwaith, nodi meysydd sy’n gorgyffwrdd, ynghyd â meysydd lle ceir diffyg, i weld lle mae angen gwasanaethau newydd a lle gellir mireinio’r gwasanaethau presennol.

Un o amcanion cyntaf y rhwydwaith yw sefydlu ‘Siop Un Stop’ yn ardaloedd Caerdydd a’r Fro a fydd yn gallu gwneud gwaith achos cyfreithiol mewn perthynas â’r holl ‘linynnau’ a gydnabyddir yn y Mesur Cydraddoldeb Sengl

Mae’r Rhwydwaith hefyd yn bwriadu darparu cynrychiolaeth traws-linynol ar amryw o fforymau a phwyllgorau sy’n ymwneud â llunio polisi. Bydd hyn yn galluogi pob cymuned yr effeithir arnynt gan faterion cydraddoldeb i gael llais mewn ystod eang o feysydd dylanwadol.

Yn y dyfodol mae’n fwriad gan y Rhwydwaith i drafod ffyrdd ymarferol eraill i hyrwyddo’r agenda cydraddoldeb drwy ryngweithio gyda’r sector cyhoeddus a phreifat o ran eu harferion cyflogi a darpariaeth eu gwasanaethau, yn ogystal â mynd i’r afael â gwahaniaethu mewn meysydd eraill lle daw’r angen yn amlwg.

Mae’n fwriad gan y Rhwydwaith hefyd i ddefnyddio technoleg ar-lein i gyrraedd a gwasanaethu cynifer o unigolion â phosibl. Cyfeiriad gwefan y Rhwydwaith yw www.ehrnetwork.org - mae’r wefan yn cael ei datblygu ar hyn o bryd.

# # # # # # # #

Rhwydwaith Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Caerdydd a Bro Morgannwg

Protocol Dealltwriaeth

Rydym ni sydd wedi arwyddo isod yn ymrwymo i barchu a gwerthfawrogi urddas pob bod dynol. Cydnabyddwn fod yr hyn sydd gennym yn gyffredin yn llawer pwysicach nag unrhyw wahaniaethau sydd rhyngom. Ni dderbyniwn ein bygwth ac ni fyddwn yn ildio i wleidyddiaeth ofn a chasineb. Lle na fyddwn yn gallu deall ein gilydd byddwn yn creu amser i ddysgu pa mor anodd bynnag y gall hyn ymddangos.

Lle y bydd hynny’n ein cynorthwyo i gyflawni’r canlyniad gorau, byddwn yn gweithio gyda’n gilydd a chydag eraill i wella bywydau pawb drwy greu gwasanaethau uchelgeisiol ond realistig sy’n diwallu anghenion ein cymuned amrywiol. Byddwn yn cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth gwaith achos cyfreithiol cydgysylltiedig ar wahaniaethu fel bod y rhai hynny sy’n profi anghyfiawnder gwahaniaethu ddim yn cael eu hanfon o un lle i’r llall, ac fel na fyddant yn ofni y bydd eu hanghenion a’u profiad unigol yn cael ei anwybyddu.

Drwy ymgysylltu â chymunedau Caerdydd a Bro Morgannwg, gyda Chyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg a llunwyr polisi eraill, byddwn yn ceisio cynrychioli’r agenda cydraddoldeb yn gyfan, yn unigol ac ar y cyd. A byddwn yn ceisio dylanwadu ar y prosesau gwneud penderfyniadau lle bydd dylanwad buddiol ar bolisïau ac arfer sy’n effeithio meysydd yn ein bywydau, cyhoeddus a phreifat.

Printiwch Enw

Sefydliad

Arwyddwyd

Dyddiad

Nol i ‘Dweud Eich Dweud’